Mynd by Marged Tudur
£7.00
Available on backorder
Description
Dyma gyfrol farddoniaeth gyntaf Marged. Daeth Marged yn ail yng nghystadleuaeth y Goron Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016 gyda rhai o’r cerddi sy’n ymddangos yn y gyfrol.
Further Information:
Cyfrol o gerddi gan Marged Tudur am y profiad o golli ei brawd. Mae cerddi’r gyfrol yn ymateb yn uniongyrchol i’r wythnosau cyntaf wedi’r brofedigaeth ac maent hefyd yn trafod y profiad dair blynedd yn ddiweddarach ac yn benodol, yr heriau, yr ofnau a’r rhwystrau sy’n parhau i wynebu rhywun. Ochr yn ochr â’r cerddi ceir darluniau gan yr artist Elin Lisabeth.
‘Mae cerddi Marged Tudur yn mynd â gwynt dyn. Mae dawn dweud, sylwgarwch a doethineb y bardd yn sicrhau taw darnau o gelfyddyd gain, dawel angerddol, yw’r cerddi hyn, bob un. Maen nhw’n gofnod ac yn archwiliad hynod o aeddfed yn hyn o beth, mewn iaith ddealladwy, agos atoch, sy’n llawn o ddelweddau sy’n cyffroi a phigo’r synhwyrau.’ – Ceri Wyn Jones

Reviews
There are no reviews yet.